Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 20 Ionawr 2016

Amser: 09.33 - 11.16
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3355


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

David Rees AC (Cadeirydd)

Alun Davies AC

John Griffiths AC

Altaf Hussain AC

Elin Jones AC

Darren Millar AC

Lynne Neagle AC

Gwyn R Price AC

Lindsay Whittle AC

Kirsty Williams AC

Tystion:

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Staff y Pwyllgor:

Llinos Madeley (Clerc)

Sian Giddins (Dirprwy Glerc)

Amy Clifton (Ymchwilydd)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

1       Sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: paratoi at sesiwn dystiolaeth lafar

1.1 Trafododd y Pwyllgor ei ffordd o ymdrin â'r sesiwn graffu gyda'r Comisiynydd.

</AI2>

<AI3>

2       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

</AI3>

<AI4>

3       Sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: dilyniant i ymchwiliad y Pwyllgor i ofal preswyl i bobl hŷn ac adolygiad y Comisiynydd o gartrefi gofal

3.1 Bu’r Comisiynydd yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

3.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:

·         amserlen yn amlinellu pryd y mae'n disgwyl gallu darparu tystiolaeth o ganlyniadau sy'n deillio o'r 'anghenion gweithredu' yn ei hadolygiad o Gartrefi Gofal;

·         rhestr o gamau gweithredu a gwaith dilynol ym maes gofal preswyl y mae'n bwriadu eu cadarnhau maes o law.

</AI4>

<AI5>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI5>

<AI6>

5       Sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: trafod y dystiolaeth

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at y Comisiynydd a Llywodraeth Cymru i amlinellu ei farn.

</AI6>

<AI7>

6       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi): Trafod yr ymdriniaeth ohono

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei ffordd o ymdrin â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn cysylltiad â'r Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi) a chytunwyd ar y ffordd honno. 

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>